Posts

OWEN ROBERTs (Brysiog Machno)

Image
  OWEN ROBERTs ('BRYSIOG MACHNO')   Hap a damwain oedd canfod bod y gŵr bonhenddig a adnabwyd fel 'Brysiog Machno' yn ail hen ewythr imi. Ganwyd Owen Roberts tua 1808, yn fferm y Dugoed , ym Mhenmachno. Yn ôl E.O. Roberts, o Jackson, Ohio yn ei golofn wythnosol yn Y Drych,   'Rhai o hen gymeriadau hynod Penmachno'  ,  'Yr ydoedd Brysiog Machno yn un o'r cymeriadau mwyaf dyddorol a fagwyd yn mro Machno yn ystod y ganrif ddiweddaf'.  Cyhoeddwyd yr erthygl ar y  'ddydd Iau, Hydref 1, 1914'  yn  'Utica, New York'.                'Dyn tal, ffraeth a doniol iawn ydoedd 'Brysiog', ac yn meddu ar gof annghyffredin o afaelgar' , medde Roberts amdano . Ar un cyfnod yn ei oes, ymhyfrydai Brysiog  '...mewn ailadrodd pregethau yr hen enwogion gynt, megys John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, ac Owen Thomas etc'.  Dyna sicrwydd hefyd, os buodd erioed, mai Methodist rhonc oedd Owen! ...