OWEN ROBERTs (Brysiog Machno)
OWEN ROBERTs ('BRYSIOG MACHNO')
![]() |
| Y Dugoed, Penmachno |
Roedd o hefyd yn gymeriad ofnus iawn, ac adroddir un hanes amdano yn cael pàs ar geffyl a throl gan 'gwestywr o Fachno' oedd yn anfon mochyn wedi'i ladd i'w brynwr un bore. Roedd y corff wedi' lapio mewn cynfas wen. Wedi holi'n gyfeillgar be oedd yn 'yr amdo' ar gefn y drol, cafodd yr ateb canlynol gan y tafarnwr ffraeth - "O! corff rhyw hen greadur fu farw neithiwr yn yr iard acw!' Dychrynodd Brysiog yn arw ac aeth i lawr o'i drol 'yn fwy brysiog nag arfer'!, yn ôl Roberts, yn ei erthygl. Mae'n adrodd hanes arall am sialens a osodwyd gerbron Brysiog Machno o flaen siop Robert Thomas, yn y plwyf. Gofynodd un o'r criw oedd wedi ymgynull iddo gyfieithu'r arwydd uwchben y siop - 'Grocer Robert Thomas Draper'. 'Ar ôl gwlychu ei wefusau a'i dafod, a thynu ei law dros ei enau, torsythodd a dywedodd - 'Dyma fo, hogia - Croger Robert Thomas, Drapia!'.
Rhieni Owen Roberts oedd Richard Roberts (1768-1847) (fy nhrydedd hen daid) a Catherine Griffith Prichard (1771-1839). Roedd Richard Roberts y Dugoed yn '...hen borthmon gwartheg adnabyddus iawn yn y cylchoedd hynny, yn y chwarter cyntaf o'r ganrif ddiwethaf. (1800-1825)' yn ôl O E Roberts, yn Y Drych. Ganwyd i Richard a Catherine o leiaf wyth o blant yn y Dugoed, gan gynnwys y canlynol :
i) Mary Roberts (1795-?)
ii) Catherine Roberts (1797-1874)
iii) Henry (Harri) Prichard Roberts (Erw Clochydd) (1802-1856)
iv) Richard Roberts (Penybryn / Tŷ Nant) (1805-1887)
v) Owen Roberts (Brysiog Madog) (1808-1895)
vi) William Roberts (1810 -?)
vii) David (Dafydd) Roberts (Cae Heilyn) (1813-1878)
viii) Robert Roberts (1816-?)
Mae 'Brysiog Machno' yn adrodd sawl hanes difyr am ei frodyr yn ei gyfrol 'Chwedleuon Machno' a gyhoeddwyd ym 1888. Mae'n agor y gyfrol gydag hanes agor Chwarel Rhiw Bach yng Nghwm Penmachno, ac yna'n sôn am ei brofiad ef ei hun o weithio yno :
'Oddeutu tri ugain a deg o flynyddoedd yn ôl (tua 1818), byddai Owen Roberts (Brysiog Machno) yn arfer myned i Rhiw Bach i lenwi cerig gyda'i frawd Harri Roberts, a'r pryd hyny yr oedd y personau canlynol yn gweithio yn Rhiw Bach : - Robert Williams (tad William Roberts, Bryn Eidal); Owen Thomas, Fuches Wen, Ffestiniog; Robert Edwards, Carrog; hefyd William Davies a David Davies, y rhai oeddynt ddau fab i'r Goruchwyliwr, (Roderick Davies), ynghyd ag ychydig eraill'.
Mae Brysiog hefyd yn nodi ei fod ymysg y rhai cyntaf i fynd â'r llwythi o'r chwarel, ar hyd y ffordd i Ffestiniog trwy Fwlch Carreg y Fran. I Drwyn y Garnedd oedd y bwriad, a cawsant eu croesawu ar y mwyaf gan bobl Ffestiniog.




Comments
Post a Comment